BU'R actor Samuel West yn cyflwyno gwobr nodedig i Gyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar.

Cyflwynodd yr actor, sy'n gadeirydd Ymgyrch Genedlaethol y Celfyddydau (NCA) Wobr Heart For the Arts i brosiect Ymgolli Mewn Celf, a gafodd ei dyfarnu’n Brosiect Celfyddydau Awdurdodau Lleol Gorau, Annog Cydlyniant Cymunedol.

Mae Ymgolli Mewn Celf yn brosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.

Datblygwyd y prosiect, a grëwyd gan Wasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Ganolfan Ddatblygu Gwasanaethau Dementia a phrosiect ymchwil Dementia a Dychymyg Prifysgol Bangor.

Cynhelir dau grwp yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd, un yn y Rhyl a'r llall yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Mae Samuel, sy’n fab i’r actorion Timothy West a Prunella Scales, wedi cael profiad personol o ddementia.

Cafodd ei fam ei hadnabod gyda'r cyflwr yn ddiweddar. Meddai’r actor: "Mae prosiectau fel Ymgolli Mewn Celf yn gynyddol bwysig.

"Mae'n galluogi i bobl weithio gydag artistiaid a gwirfoddolwyr proffesiynol mewn llawer o wahanol ddisgyblaethau.

"Mae’n brosiect gwych, nid yn unig i'r bobl dan sylw, ond eu gofalwyr a'u teuluoedd a'u cymunedau.”

Meddai'r Cyng Bobby Feeley, aelod arweiniol Sir Ddinbych dros les ac annibyniaeth: "Rydym wrth ein bodd o gael yr anrhydedd hwn, sy'n cydnabod y gwaith aruthrol sy'n digwydd gyda dementia a'r celfyddydau.

"Hoffwn gydnabod gwaith gwych y gwasanaeth celfyddydau a'r tîm creadigol Ymgolli Mewn Celf sydd wedi dyfeisio’r prosiect a phrofi manteision i gyfranogwyr.”