CASGLWYD £400 yng ngwasanaeth carol elusennol a drefnwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda’r arian yn mynd tuag at Hosbis Sant Cyndeyrn.
Roedd y gwasanaeth, a gynhaliwyd yn Eglwys Plwyf Llanelwy yn cynnwys perfformiadau gan Côr Cytgan Clwyd, Côr Sain y Sir (yn cynnwys staff y cyngor), unawdydd Owain John o Ysgol Glan Clwyd, y delynores Angharad Huw o Ysgol Brynhyfryd a pherfformiad difyr gan ensemble pres cydweithredol Gerddoriaeth Sir Ddinbych i orffen y gwasanaeth.
Dywedodd y Cyng Peter Scott, cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych: "Mae ein gwasanaeth carol wedi sefydlu ers ei hun fel un o wasanaethau cyntaf tymor y carolau.
"Roedd yn noson wirioneddol hudol, yn cynnwys perfformiadau traddodiadol a modern.
"Cyflwynodd staff a chynghorwyr stori'r Nadolig trwy ddarlleniadau ac roedd yr eitemau cerddorol yn diddanu'r gynulleidfa ac yn ychwanegu rhywbeth arbennig at y noson.
"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau hael ac edrychwn ymlaen at basio'r casgliad ymlaen i Hosbis Sant Cyndeyrn."
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here